Anghenion Dysgu Ychwanegol

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Sir Gar – sut mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn newid a sut y mae yn eich effeithio chi?

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021)

CADY – Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yw Mr Harri Edwards. Gallwch gysylltu â fe trwy swyddfa’r ysgol ar 01269 841 563 neu e-bost: admin@llannon.ysgolccc.cymru

Mae Ysgol Llannon yn sicrhau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn derbyn cymorth effeithiol. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys gwaith wedi’i wahaniaethu gan yr athro dosbarth, sesiynau unigol neu mewn grwpiau bach y tu allan i’r dosbarth, yn ogystal â chefnogaeth gan asiantaethau allanol pan fo angen. Yn Ysgol Llannon, mae cyfrifoldeb darpariaeth ADY yn cael ei rannu gan bawb.

Yn Ysgol Llannon mae ein darpariaeth ADY yn cynnwys:

  • Gwaith gwahaniaethol gyda’r athro dosbarth.
  • Cefnogaeth wedi’i dargedi yn y dosbarth.
  • Ymyrraeth tymor byr effeithiol ar sail 1:1, neu o fewn grwpiau bach.
  • Perthnasoedd sefydledig gydag asiantaethau allanol.
  • Proffiliau Un Dudalen (PUD) manwl i ennill gwybodaeth am bob dysgwr unigol, darganfod beth sy’n bwysig iddynt a sut y gellir eu cefnogi i fod y gorau y gallant fod.
  • Cynlluniau Datblygu Unigol (IDP) – mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys PUD, camau gweithredu cytunedig wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr penodol hwnnw. Mae IDP yn cynnwys enwau a manylion cyswllt ar gyfer yr holl bobl ac asiantaethau sy’n gysylltiedig.
  • Cefnogaeth fugeiliol effeithiol e.e. ELSA neu grwpiau CHATT.

Mae gennym aelod staff dynodedig ar gyfer ELSA hefyd, sef Mrs Stephanie Johns, sydd wedi’i hyfforddi’n llawn gan Seicolegwyr Addysg i ddarparu’r ymyrraeth hon. Gweler isod am ragor o wybodaeth:

Mae ELSA yn fenter a ddatblygwyd ac a gefnogir gan seicolegwyr addysg. Mae’n cydnabod bod plant yn dysgu’n well ac yn hapusach yn yr ysgol os eir i’r afael â’u hanghenion emosiynol hefyd.

Cyflwynir y rhan fwyaf o waith ELSA yn unigol, ond weithiau mae gwaith grŵp bach yn fwy priodol, yn enwedig ym meysydd sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Mae sesiynau yn hwyl, rydym yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau megis: gemau, chwarae rôl gyda phypedau neu weithgareddau therapiwtig fel ymwybyddiaeth ofalgar neu gelf a chrefft. Cynhelir sesiynau ELSA yn ein ‘ystafell ELSA’ ein hunain sy’n darparu man tawel a diogel i’r plentyn deimlo ei fod yn cael ei gefnogi a’i feithrin.

Yn ELSA, ein nod yw darparu cymorth ar gyfer ystod eang o anghenion emosiynol:

  • Adnabod emosiynau
  • Pryder
  • Hunan-barch
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Sgiliau cyfeillgarwch
  • Rheoli dicter
  • Colled a phrofedigaeth