Rydym yn disgwyl i bob plentyn fynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon. Gall hyd yn oed absenoldeb byr neu achlysurol effeithio ar ddysgu a chynnydd plentyn.
Efallai nad yw colli diwrnod ysgol yma ac acw yn ymddangos yn fawr, ond mae’r effaith yn cronni. Er enghraifft, mae colli dau ddiwrnod y mis yn gyfwerth â phedair wythnos o ddysgu’r flwyddyn – sef dros flwyddyn o ddysgu coll rhwng Blwyddyn 1 a Blwyddyn 13.
Mae pob diwrnod ysgol yn cyfri. Mae pob diwrnod a gollir yn ei gwneud hi’n anoddach i blant ddal i fyny ac yn gallu arwain at lai o gynnydd mewn darllen, ysgrifennu a rhifedd. Mae presenoldeb rheolaidd hefyd yn helpu plant i ddatblygu cyfeillgarwch a sgiliau cymdeithasol cryf.
Pam mae presenoldeb da mor bwysig?
Mae dod i’r ysgol bob dydd yn helpu plant i:
- Dyfu’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
- Ddatblygu’n gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn barod i gymryd rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
- Dyfu’n ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd.
- Fod yn unigolion hyderus ac iach, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Mae presenoldeb rhagorol yn rhoi’r cychwyn gorau posibl i bob plentyn yn eu bywyd.
Os nad yw plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, gall fod yn angenrheidiol i’r ysgol godi pryderon diogelu ynghylch eu lles neu’u cynnydd.
Adrodd am absenoldeb
Dim ond oherwydd salwch neu argyfwng teuluol y dylai plentyn fod yn absennol o’r ysgol.
Cysylltwch â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i roi gwybod i ni pam nad yw eich plentyn yn bresennol.
Bod yn brydlon
Mae cyrraedd yr ysgol ar amser yn hanfodol ar gyfer dysgu eich plentyn ac yn helpu i gadw trefn ddyddiol yr ysgol.
I gefnogi teuluoedd, mae’r ysgol yn cynnig Clwb Brecwast am ddim o 8:15 y bore.
Anfonir manylion gwyliau, digwyddiadau a diwrnodau hyfforddi at rieni drwy ein newyddlen wythnosol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda swyddogion presenoldeb yr awdurdod lleol, ac efallai y caiff atgyfeiriadau eu gwneud os bydd presenoldeb gwael yn parhau.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster gyda phresenoldeb neu brydedd eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol – rydym yma i helpu.

Colli ysgol : Colli Cyfle – Cyngor Sir Caerfyrddin
CEISIADAU AM WYLIAU
Rydym yn gofyn yn garedig i rieni a gofalwyr drefnu gwyliau teuluol yn ystod gwyliau’r ysgol lle bo hynny’n bosibl, ac nid yn ystod tymor yr ysgol.
Os oes amgylchiadau eithriadol sy’n golygu bod angen i’ch plentyn gael ei dynnu allan o’r ysgol yn ystod y tymor, trefnwch gyfarfod gyda’r Prifathro, Mr Harri Edwards.
Gellir gwneud hyn drwy ffonio’r ysgol ar 01269 841 563
neu drwy anfon e-bost at:
admin@llannon.ysgolccc.cymru
Rhaid cyflwyno pob cais am wyliau yn electronig drwy sganio’r cod QR ar ddrws derbynfa’r ysgol. Ni chaiff ceisiadau eu hawdurdodi oni bai eich bod yn derbyn ymateb gan y Prifathro.
Sicrhewch eich bod yn anfon eich cais yn ddigon o flaen llaw, er mwyn caniatáu amser ar gyfer trafodaeth os oes angen, a derbyn ymateb ysgrifenedig.
Noder: Cyfrifoldeb y rhiant yw sicrhau bod yr ymateb wedi’i dderbyn cyn dyddiad dechrau’r gwyliau.
Canllawiau
Wrth ystyried cais am wyliau yn ystod tymor yr ysgol, bydd y Prifathro yn cymryd i ystyriaeth:
- Oedran y plentyn
- Amser y flwyddyn y cynigir y gwyliau
- Hyd a diben yr absenoldeb
- Effaith ar barhad dysgu
- Patrwm presenoldeb cyffredinol y plentyn
- Cynnydd academaidd y plentyn
- Unrhyw ganllawiau gan Lywodraeth Cymru
Bydd y rhain yn cael eu cydbwyso gyda:
- Amgylchiadau unigol y teulu
- Dymuniadau a barn y rhieni/gofalwyr
- Diben y gwyliau
Noder: Nid yw’r rhestr uchod yn un gynhwysfawr. Mae gan y Prifathro ddisgresiwn i ystyried unrhyw ffactorau eraill sy’n berthnasol i’r penderfyniad.
Os caiff cais am wyliau ei gymeradwyo oherwydd yr amgylchiadau, bydd yn cael ei awrdurdodi.
Fodd bynnag, cofiwch y bydd hyn o hyd yn effeithio ar ganran presenoldeb cyffredinol eich plentyn – dim ond presenoldeb yn yr ysgol sy’n cyfrif ar y gofrestr.
